Cymdeithas Y Beibl

Mae gan Gymdeithas y Beibl ei gwreiddiau yng Nghymru. Yng Nghymru y gwnaeth Mary Jones ei thaith gerdded enwog i brynu Beibl yn ei hiaith ei hun, Cymraeg, gan y Parchedig Thomas Charles.

Ei phenderfyniad i fod yn berchen ar ei Beibl ei hun y gallai ei ddarllen drosti ei hun a ysgogodd Mr Charles i weithio gydag eraill i sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn 1804.

Heddiw mae Cymdeithas y Beibl yn parhau i weithio yng Nghymru ymhlith pobl sy’n siarad Cymraeg ac yn siarad Saesneg. Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwyr y Beibl yn Gymraeg. Mae ein canolfan ymwelwyr, Canolfan Pererin Mary Jones yn Llanycil, y Bala yn gwneud stori Mary Jones, Thomas Charles, a Chymdeithas y Beibl yn wybyddus i genedlaethau newydd o dwristiaid, grwpiau ysgol ac eraill. Mae Agor y Llyfr hefyd yn weithredol iawn yng Nghymru, gan gymryd storiâu’r Beibl i ysgolion, y rhai Cymraeg a Saesneg y mhob rhan o’r wlad.

Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio i annog, arfogi a chefnogi pobl yng Nghymru i ddarllen y Beibl ac i’w ddeall yn well. Rydym hefyd wrth gwrs yn cefnogi gwaith ehangach Cymdeithas y Beibl ar draws y byd. Gallwch gysylltu yma os hoffech wahodd aelod o’r tîm i wneud cyflwyniad yn eich capel/eglwys/sefydliad.

Ein nod yw codi hyder pobl ynghylch y Beibl, i oresgyn difaterwch ac i gynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth i annog ac i arfogi pobl yn eu taith wrth ymgysylltu ag ef.

Mewn rhannau o’r byd, mae’n medru bod yn anodd cael mynediad i’r Beibl, neu rannau ohono. Yn y wlad hon, mae’r broblem yn ymwneud mwy â’r ffaith fod rhai yn ei chael yn anodd ei ddeall ac efallai ddim yn ei weld yn berthnasol i’w bywyd.
Rydym fel Cymdeithas y Beibl yn gweithio’n galed yma yng Nghymru a Lloegr a hefyd mewn gwahanol leoliadau ar draws y byd i geisio newid hyn. Rydym yn dod o hyd i ffyrdd o gyfieithu a dosbarthu’r Beibl. Yn ogystal â chreu fformatau digidol, rydym yn eiriol dros le’r Beibl mewn cymdeithas gan helpu pobl i uniaethu ag ef a gwneud synnwyr ohono yn eu bywydau bob dydd.

Am dros 200 mlynedd mae Cymdeithas y Beibl wedi bod yn gweithio i ddod â’r Beibl yn fyw; i helpu pobl ledled y byd i ymgysylltu ag ef, uniaethu ag ef, a gwneud synnwyr ohono.

Mae’r genhadaeth hon yn ysgogi ystod eang o weithgareddau. Mewn rhai rhannau o’r byd, mae dod â’r Beibl yn fyw yn golygu canolbwyntio ar brosiectau cyfieithu a dosbarthu. Mewn mannau arall mae’n golygu canolbwyntio ar hyfforddiant arweinyddiaeth, neu raglenni llythrennedd, neu ddeialog ryng-ffydd. Yn agosach i adref, yng Nghymru mae’n golygu canolbwyntio ar ymdrech hyrwyddo, cenhadaeth ysgolion ac adnoddau defosiynol.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu unigolion a chymunedau i ymgysylltu â’r Beibl oherwydd rydym yn credu pan fyddan nhw’n gwneud hynny, gall bywydau newid – er gwell.

Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i’r argyhoeddiad fod y Beibl yn fyw heddiw. Nid yw’n neges sydd wedi ei ddyddio ond mae’n air sydd yn fyw! Mae hanes, diwylliant ac iaith Cymru wedi eu cysylltu’n agos â’r Beibl. Ond a ydym yn cydnabod ei werth heddiw?

Rydym yn cynnig gweithgareddau, adnoddau amrywiol, a’r Beibl yn Gymraeg, y cyfan er mwyn helpu pobl o bob oed i gydnabod gwerth y Beibl yng Nghymru a’r byd. I weld fwy o’r adnoddau rydym yn ei gynnig, cliciwch yma.

Cydnabyddwn fod gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i weld y Beibl yn cael ei gynnig i Gymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o eglwysi, enwadau a mudiadau cenhadol sydd yn bartneriaid gennym yn ein gwaith. Os ydych yn teimlo’n angerddol am y Beibl yng Nghymru, mi fyddai’n fraint cael cysylltu gyda chi i drafod ffyrdd o gyd-weithio.

Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwr y Beibl Cymraeg. Yn 2014 cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd gyda Mynegair, ac yn 2015 cyhoeddwyd beibl.net mewn print am y tro cyntaf, sef y cyfieithiad mwyaf newydd o’r Beibl Cymraeg. Roedd awydd pobl ledled Cymru i ddefnyddio cyfieithiad modern ac i’w rannu ag eraill yn gymaint nes bod yr argraffiad cyntaf wedi ei werthu allan drwy archebion ymlaen llaw cyn ei fod wedi cyrraedd y siopau hyd yn oed. Ewch i siop Cymdeithas y Beibl i ganfod mwy am ein Beiblau Cymraeg. Archebwch eich copi heddiw: neu prynwch gopïau i’w rhannu gyda’ch ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol neu eich capeli.

Mae pob un o’r prif gyfieithiadau o’r Beibl Cymraeg hefyd ar gael ar-lein drwy wahanol wefannau ac apiau:
Mae’r Ap Beibl wedi’i greu gyda chymorth Cymdeithas y Beibl er mwyn sicrhau y gallwch gael gafael ar y Beibl ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.

Gwefan: www.biblesociety.org.uk