Cylchgronau Cristnogol

Cylchgronau Cristnogol
Cristion:
Cyhoeddiad deufisol yw cylchgrawn Cristion. Mae’n gyfnodolyn i Gristnogion a’r sawl sydd am ddysgu am y ffydd Gristnogol yng Nghymru a’r tu hwnt. Cynhwysir newyddion, erthyglau, adolygiadau a deunydd defosiwn ac erthyglau ar destunau Cristnogol yng Nghymru, eitemau newyddion, adolygiadau o lyfrau, llythyron a chystadleuthau. Fe’i gyhoeddwyd gyntaf yn 1983. Pwyllgor aml enwad o eglwysi Anghydffurfiol ac Anglicanaidd yw Pwyllgor Cyhoeddi Cristion, syn penodi golygydd am dymor o 5 mlynedd. Y Parch owain llyr Evans yw’r golygydd presennol.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.cristion.net

Y Cylchgrawn Efengylaidd:
Cylchgrawn chwarterol y Mudiad Efengylaidd sy’n ymwneud â sawl agwedd ar Gristnogaeth yng Nghymru yw’r ‘Cylchgrawn Efengylaidd’. Ceir ynddo newyddion, erthyglau, adolygiadau a llawer mwy. Mae’r Cylchgrawn yn ymgeisio i hyrwyddo’r ffydd Gristnogol a thystio i wirionedd Duw yn y Beibl ac ym mywyd ei bobl.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.mudiad-efengylaidd.org/ein-gwaith/darparu-adnoddau/cylchgronau-mec/y-cylchgrawn-efengylaidd/

Agora:
Mae Agora yn gylchgrawn ar y we a gyhoeddir gan griw Cristnogaeth21.
Sefydlwyd Cristnogaeth 21 gan griw bychan o weinidogion a lleygwyr sy’n awyddus i weld dehongli hanfodion Cristnogaeth radical ar gyfer yr oes bresennol. Credwn fod y Gymru Gymraeg wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddiffyg trafodaeth eang ar natur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni. Medrwch ymateb i unrhyw erthygl drwy bostio neges at cristnogaeth21@gmail.com
Mae’n ymddangos yn ddeu-fisol ar wefan www.cristnogaeth21.cymru
Cewch mwy o wybodaeth drwy fynd i: www.cristnogaeth21.cymru

Cylchgronau at ddiben cenhadol
Holi:
Cylchgrawn yn llawn hanesion pobl o Gymru.
Mae’n rifyn 56 tudalen (28 Cymraeg a 28 Saesneg).
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.mudiad-efengylaidd.org/2019/07/holi-haf-2019/

Llwybrau:
Cylchgrawn ar y we sy’n llawn adnoddau i helpu ac annog pobl ifanc Cymru.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.llwybrau.org

Cylchgronau defosiynnol
Gair y Dydd:
Deunydd defosiwn dyddiol a gaiff ei gyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn (fesul tri mis). Cyhoeddir gan Bwyllgor Darlleniadau Beiblaidd ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys yng Nghymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.
Cylchgronau academaidd
Y Traethodydd:
Prif amcan Y Traethodydd yw cynnig ymdriniaethau ar rychwant o bynciau sy’n ymwneud â ‘diwylliant’, a deall y gair hwnnw mewn ystyr eang i gynnwys gwead syniadol a deallusol cymdeithas. Mae’r cylchgrawn bob amser wedi llwyddo i fod yn amserol ac yn gyfoes yn ei drafodaethau ar lenyddiaeth, crefydd a’r celfyddydau.

Cyfraniad pwysig at drafod pynciau amrywiol mewn ffordd ddeallus yw adolygiadau sylweddol a safonol, ac mae’r Traethodydd wedi rhoi lle amlwg i adolygu llyfrau yn gyson, a hyn oll mewn arddull sy’n apelio at y ‘darllenydd cyffredin’. Ers dros gan mlynedd y mae’r cylchgrawn wedi bod yn cyfrannu’n gyffredinol eang at y bywyd deallusol Cymraeg.

Un o nodweddion Y Traethodydd yw ei gynnwys amrywiol. Yn ogystal â nifer o adolygiadau, mae pob rhifyn yn cynnwys tair neu bedair o erthyglau ar amrywiaeth o bynciau. Mewn rhifynnau diweddar cafodd rhai o glasuron llên Cymru eu hailystyried o’r newydd a daeth ein hanes hefyd dan y chwyddwydr. Mae materion gwyddonol yn cael eu hystyried, yn arbennig berthynas crefydd a gwyddoniaeth, a hefyd faterion moesegol a diwinyddol cyfoes. Mae cyfle am ‘ddeialog’ ar dudalennau’r cylchgrawn a chroesewir ymateb i erthyglau.

Y Traethodydd yw’r cyfnodolyn hynaf sy’n parhau i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg. Fe’i sefydlwyd yn 1845 gan Thomas Gee, gyda Lewis Edwards fel prif olygydd a’r Parch Roger Edwards fel cyd-olygydd. Dilynodd Lewis Edwards batrwm cyfnodolion Saesneg megis The Edinburgh Review a Blackwood’s Magazine. Bu Syr Ifor Williams yn olygydd o 1939 hyd 1964. Y golygydd presennol yw D. Densil Morgan.

Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.ytraethodydd.cymru/

Papurau newydd yr amrywiol enwadau
Y Goleuad: Wythnosolyn y Presbyteriaid
Papur newydd wythnosol a gyhoeddir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sy’n cynnwys 4 tudalen o newyddion enwadol a phedair tudalen o newyddion cyd-enwadol Cymraeg.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.ebcpcw.cymru/cy/cyhoeddiadau/goleuad/

Y Tyst: Wythnosolyn yr Annibynwyr
Papur newydd wythnosol a gyhoeddir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynnwys 4 tudalen o newyddion enwadol a phedair tudalen o newyddion cyd-enwadol Cymraeg.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.annibynwyr.org/tyst/

Seren Cymru: Wythnosolyn y Bedyddwyr
Papur newydd wythnosol a gyhoeddir gan Undeb Bedyddwyr Cymru, sy’n cynnwys 4 tudalen o newyddion enwadol a phedair tudalen o newyddion cyd-enwadol Cymraeg.
Cewch mwy o wybodaeth neu manylion ar sut y gellir prynu copiau o:
www.buw.org.uk

Y Gwyliedydd: Cychgrawn Yr Eglwys Fethodistaidd
Cylchgrawn deufisol y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg, sy’n cynnwys newyddion o eglwysi’r Wesleaid ledled Cymru, erthyglau, myfyrdodau a defosiwn, a cholofn lythyrau.
www.synodcymru.org.uk/