Cyhoeddwyr Adnoddau

Cyhoeddiadau’r Gair
Cyhoeddiadau’r Gair
Y prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau Cristnogol yn y gymraeg yw Cyhoeddiadau’r Gair, sef adain gyhoeddi Cyngor Ysgolion Sul. Erbyn hyn mae dros 900 o lygrau mewn print, a tua 25 o lyfrau newydd yn cael eu cyheddi yn flynyddol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i weld y catalog cyflawn:
www.ysgolsul.com/?page_id=984
Gwasg Bryntirion
Gwasg Bryntirion
Mae Gwasg Bryntirion hefyd yn cyhoeddi llyfrau beiblaidd adiwinyddol. Ceir mwy o fanylion ar eu gwefan:
www.mudiad-efengylaidd.org/ein-gwaith/darparu-adnoddau/gwasg-bryntirion-cymraeg/
Eraill
Mae nifer o weisg eraill yng Nghymru yn cyhoeddi llyfrau crefyddol yn achlysurol. Gellir chwilio yn adran ‘llyfrau crefydd’ ar www.gwales.com i gael y rhestr cyflawn o lyfrau Cristnogol Cymraeg sydd mewn print.

Mae’r gweisg enwadol hefyd yn cyhoeddi llyfrau a nwyddau eglwysig, tystysgrifau bedydd a derbyn, blwyddiaduron a Suliaduron ac ambell gyhoeddiad enwadol. Mwy o wybodaeth am hynny drwy gysylltu gyda swyddfa ganolog eich enwad.

Mae Cymdeithas y Beibl yn cyhoeddi ystod eang o Feiblau Cymraeg a rhai llyfrau eraill. Mwy o wybodaeth o’r wedan:
www.biblesociety.org.uk/product-search/Cymraeg

Mae Pwyllgor Llyfr Emynau Cydenwadol yn cyhoeddi ystod o lyfrau emynau Caneuon Ffydd, gyda geiriau yn unig, cerddoriaeth Hen Nodiant a Sol-ffa, ac argraffiad ar gyfer yr organ.