Cyflwyniad i’r ffydd Gristnogol

Newyddion Da

Yr awdur a’r hanesydd HG Wells ddwedodd rhyw dro:

“Hanesydd ydw i. Dydw i ddim yn grediniwr, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fel hanesydd mai’r pregethwr tlawd yma o Nasareth, heb os nac oni bai, ydy canolbwynt hanes. Iesu Grist, heb amheuaeth, ydy’r ffigwr mwyaf dylanwadol yn holl hanes.”

Am ddwy fil o flynyddoedd mae pobl wedi cydnabod fod yna rywbeth arbennig iawn am Iesu Grist. Yn y Testament Newydd, yn Efengyl Marc, pennod 1, adnod 1, mae’r awdur yn sgwennu:

“Mae’r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw, yn dechrau fel hyn…”

‘Newyddion da’ – dyna ystyr y gair ‘efengyl’. Newyddion sy’n newid bywydau!

Iesu yw'r Newyddion da
A beth ydy’r newyddion sy’n newid bywydau? Iesu. Iesu ydy’r newyddion da.

Doedd dim syndod, felly, fod miloedd o bobl yn tyrru i’w weld pob dydd.

Roedden nhw yn gwybod ei fod o’n newyddion da am ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo yn werthfawr a phwysig. Pwy bynnag oeddet ti, ble bynnag buest ti, beth bynnag oeddet ti wedi ei wneud – roedd gan Iesu wastad amser i ti.

Roedden nhw hefyd yn gwybod ei fod yn newyddion da oherwydd beth roedd yn ei ddweud. Pan oedd Iesu yn edrych i fyw dy lygad ac yn dweud fod Duw wedi maddau dy bechodau, roeddet ti’n gwybod fod dy bechodau wedi’u maddau a’u hanghofio. Roedd fel petai Duw ei hun yn dweud geiriau o obaith wrthot ti.

Ond doedd o ddim jest yn newyddion da oherwydd beth ddwedodd o. Roedd yn amlwg ei fod yn newyddion da oherwydd y pethau oedd o’n eu gwneud. Roedd yn gwneud pethau allai neb arall eu gwneud. I ddweud y gwir, roedd yn gwneud pethau allai neb ond Duw ei hun eu gwneud.

Cymerodd ddŵr a’i droi yn win.

Bwydodd dros 5,000 o bobl gyda dim ond pum torth a dau bysgodyn.

Roedd stormydd gwyllt yn tawelu yn sŵn ei lais.

Pan oedd o’n siarad roedd pobl fyddar yn clywed; roedd y dall yn gweld a’r cloff yn cerdded a neidio’n llawen.

Roedd hyd yn oed yn gorchymyn i bobl oedd wedi marw ddod yn ôl yn fyw.

Yr hyn sy'n arbennig am Iesu

Roedd pobl yn cydnabod fod rhywbeth rhyfeddol a syfrdanol am Iesu – rhywbeth oedd yn newyddion da.

Er ei fod yn treulio ei holl amser gyda phobl oedd yn gwneud smonach ac yn cael pethau’n rong, wnaeth o’i hun ddim pechu o gwbl. Doedd o byth yn genfigennus, byth yn falch, yn farus nac yn hunanol. Wnaeth o erioed hel straeon, dwyn, rhegi na meddwi. Ac eto roedd o’n dal yn gwybod sut i joio bywyd; roedd yn byw bywyd i’r eithaf.

Roedd yn byw’r math o fywyd fyddai Duw ei hun yn ei fyw petai Duw yn cerdded strydoedd ein byd. Fo oedd, a fo ydy’r newyddion da.

Wrth gwrs roedd rhai pobl ddim yn ei hoffi. Dyma nhw’n cymryd Iesu, ei arestio a’i arteithio. Yna dyma nhw’n ei hoelio ar groes fel lleidr cyffredin, er ei fod wedi gwneud dim o’i le.

Ond hyd yn oed ar y groes, roedd hi dal yn amlwg fod Iesu yn newyddion da. Wrth farw yn araf mewn poen ofnadwy, dyma fo’n maddau i’r rhai hynny oedd yn gwneud sbort am ei ben. Roedd yn gwybod mai dyma’r prif reswm pam y daeth i’r byd – i farw, nid dros ei bechodau ei hun, ond dros bechodau – dros lanast a dioddefaint – y byd i gyd.

Yn yr eiliad gosmig syfrdanol honno ar y groes (mewn ffordd allwn ni byth ei deall yn llawn) cafodd popeth oedd o’i le, popeth poenus, popeth oedd wedi torri, popeth dinistriol sydd wedi digwydd erioed neu fydd yn digwydd yn y dyfodol … eu gosod ar ei ysgwyddau o.

Mae’r proffwyd Eseia yn dweud fod Iesu wedi ei sathru dan bwysau byd toredig. Ar y groes wynebodd Iesu ganlyniadau llawn ein gwrthryfel ni, er mwyn i ni allu derbyn maddeuant a bywyd newydd gyda Duw – fel bod y greadigaeth gyfan yn cael ei hiacháu a’i hadnewyddu.

Ac mewn ychydig oriau, bu farw, trodd yr awyr yn ddu a chrynodd y ddaear. Syllodd milwr Rhufeinig ar wyneb Iesu a dweud y geiriau mwyaf gwir ellir eu darganfod: “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”

Dyma nhw’n cymryd ei gorff ei osod i orwedd mewn bedd oedd wedi ei naddu yn y graig, a rholiwyd carreg fawr drom dros geg y bedd.

Ond roedd y rhai hynny oedd yn credu fod Iesu yn newyddion da yn dal gafael yn y gobaith mai nid dyna oedd y diwedd – a doedden nhw dim yn mynd i gael eu siomi.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, roedd y garreg wedi’i rholio i ffwrdd, roedd y bedd yn wag, ac roedd – mae – Iesu yn fyw, gan brofi i bawb ei fod yn wir yn newyddion da.

Mab Duw, reit siŵr.

Wedi ei anfon i’r byd…

  • I ddangos i’r byd sut un ydy Duw.
  • I ddangos i ni sut i fyw y bywyd y crëwyd ni ar ei gyfer.
  • I farw, er mwyn i ni dderbyn maddeuant a phrofi bywyd newydd – bywyd o berthynas gyda’r Duw â’n creodd ni, y Duw sy’n ein nabod, yn ein caru ac sydd â dyfodol unigryw i bob un ohonom.
  • I atgyfodi a phrofi ei fod yn Dduw, ac mai nid marwolaeth ydy diwedd y stori – fod marwolaeth wedi’i drechu.
  • I atgyfodi fel addewid y bydd Duw, rhyw ddydd, yn gwneud popeth yn iawn ac yn trwsio’r byd toredig yma.

Am 40 diwrnod wedyn treuliodd Iesu amser gyda’i ffrindiau. Bu’n bwyta, chwerthin, cerdded a siarad gyda nhw. Profodd ei fod yn fwy byw nag y bu unrhyw un erioed o’r blaen.

Yna roedd yn amser iddo adael. Ond cyn iddo adael, rhoddodd sialens i’w ffrindiau rannu’r newyddion da gyda phawb drwy’r byd i gyd. I ddal ati gyda’i genhadaeth. I weld Duw yn dod i deyrnasu ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. I ddod ag iachâd a chyflawnder, tegwch a haelioni, cariad a bywyd – i’r greadigaeth gyfan.

Aeth Iesu yn ôl i’r nefoedd. Aeth yn ôl at y Tad, ble mae heddiw yn gweddïo dros bob un ohonon ni.

Dilyn Iesu

Dyma ei ffrindiau yn gwneud yn union beth ofynnodd iddyn nhw ei wneud. Gyda help Ysbryd Glân Duw, aethon nhw i ben draw’r byd i gyhoeddi mai fo ydy’r newyddion da.

A heddiw, mae biliynau o bobl wedi darganfod y newyddion da am Iesu. Ei fod yn wahanol i unrhyw un arall yn hanes y bydysawd. Fo ydy Mab y Duw byw ac mae’n fyw heddiw, yn cynnig maddeuant am ein gorffennol, bywyd yn ein presennol, a gobaith i’n dyfodol. Mae’n gwahodd pawb i ymuno gydag e, i ddod ac i fod y newyddion da yna hyd eithaf y ddaear. Byw bywydau o gariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, daioni, addfwynder, caredigrwydd, ffyddlondeb, a hunanreolaeth – yn byw fel Iesu yn y byd.

Dylid gwneud hyn gan wybod fod Iesu, rhyw ddydd, yn dod yn ôl. Falle yn ystod ein bywydau ni. Falle ddim! Ond pan fydd yn dod yn ôl bydd yn rhoi diwedd ar bechod, salwch, dioddefaint a marwolaeth, a hynny un waith ac am byth. A bydd pawb fu’n ei ddilyn yn y bywyd hwn yn cael eu hatgyfodi i fywyd newydd, yn union fel Iesu, ac yn byw gyda Duw am byth yn y greadigaeth newydd. Dyna pam mai Iesu ydy – a Iesu fydd – y newyddion da!

Felly beth mae hyn yn ei olygu i ti heddiw?

Mae’n golygu fod Iesu yn dy wahodd i’w ddilyn o. I ddod yn un o’i ddisgyblion – ei brentisiaid – a dysgu bod, dweud a gwneud bywyd fel y gwnaeth o… ac ymuno â’i genhadaeth anhygoel i newid y dyfodol.

Christian Enquiry Agency
Christian Enquiry Agency
Gwefan gydenwadol Saesneg ei iaith sy’n fan cyswllt ar gyfer y rhai sy’n ymchwilio i gwestiynnau sylfaenol ffydd a chred.

  • Jesus’ Life: If you’re wondering where to start, why not discover more about the founder of the Christian faith – Jesus…
  • What is a Christian?: Do you have a friend who is a Christian? Or have you ever wondered what it means to become a Christian?

Mwy o wybodaeth ar wefan: www.christianity.org.uk

Hyfforddwr Thomas Charles
Mae Hyfforddwr Thomas Charles – neu, Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristionogol, a rhoi ei deitl cywir – yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd a dylanwadol a gyhoeddwyd yng Nghymru erioed. Dysgodd miloedd o Gymry wirioneddau Efengyl Iesu Grist wrth ei ddarllen a’i gofio.

Catecism, neu holwyddereg, ydyw; cyfres o gwestiynau ac atebion wedi eu trefnu’n ofalus i agor y pwnc dan sylw mewn modd eglur a chofiadwy. Er nad yw’r modd yma o ddysgu mor boblogaidd heddiw ag y bu mae’n dal i fod yn ffordd dda o ddysgu gwirioneddau’r Ffydd ac mae’r llyfryn bach yma’n parhau i fod yn berthnasol a gwerthfawr.

Aeth Eglwys Penuel Caerfyrddin i ddiwygio’r cynnwys cliciwch isod i lawrlwytho:
Hyfforddwr Thomas Charles (PDF)