Cristnogaeth 21

Sefydlwyd Cristnogaeth 21 fel llwyfan i drafod a dehongli hanfodion Cristnogaeth radical ar gyfer yr oes bresennol. Byddwn yn trefnu encil a chynhadledd flynyddol, ac mae gennym bresenoldeb bywiog ar Facebook. Mae ein cylchgrawn digidol ‘Agora’ yn cael ei ddiweddaru’n gyson ar y wefan, a byddwn yn rhannu neges wythnosol gyda’n dilynwyr ar ffurf e-fwletin.

Cewch ragor o wybodaeth ar www.cristnogaeth21.cymru