Cristion

Croeso i wefan y cylchgrawn Cristion. Beth am danysgrifio a mwynhau’r ystod eang o erthyglau sydd ar gael?

Tanysgrifio
Os hoffech dderbyn copi o Cristion, gallwch unai gysylltu â’ch siop lyfrau leol, tanysgrifio’n unigol, neu danysgrifio fel Eglwys neu Ofalaeth am bris gostyngol.

Galllwch lawrlwytho’r daflen pdf tanysgrifio ei lenwi a’i anfon at ein Swyddog Tanysgrifiadau: D Rhys Jones, Gelli Deg, 19 Llantrisant Rise, Llandaf, Caerdydd, CF5 2PG

Mae modd tanysgrifio a thalu ar-lein yn defnyddio PayPal i dderbyn y cylchgrawn trwy’r post hefyd:

Heulwen, Eurfyl a Sian Elin yw golygyddion Cristion.

“Canolbwynt Cristion yn ystod ein tymor fel golygyddion bydd y gwaith sydd yn cael ei wneud ar lawr gwlad. Ffydd bob dydd. Y gobaith yw y bydd yna bwyslais ar y bobl sydd yn cadw ein capeli ac eglwysi ar agor. Y bobl a’r cymunedau sydd yn dangos bod ffydd ar waith. O’r plant bach i’r henoed. Ac er ein bod yn gweld llawer o eglwysi erbyn hyn yn mynd yn fach neu’n cau yn gyfan gwbl, rydym am uwcholeuo’r gwaith da a’r dystiolaeth sydd yn digwydd dros Gymru.”