Care for the Family

Rydym yn elusen genedlaethol sy’n ceisio hybu bywyd teuluol cryf a helpu’r rhai sy’n wynebu anawsterau teuluol.
Ers 1988, mae Care for the Family wedi ceisio hybu bywyd teuluol cryf a helpu’r rhai sy’n wynebu anawsterau teuluol. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar y DU, ond yn gynyddol trwy dechnoleg ddigidol, rydym yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

Rydym yn canolbwyntio’n bennaf ar y meysydd canlynol o fywyd teuluol: priodas, magu plant a phrofedigaeth. Ein nod yw bod yn hygyrch i bob teulu beth bynnag fo’u hamgylchiadau a chreu adnoddau a chymorth sy’n ataliol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn hawdd eu defnyddio.

Mae pob teulu a phriodas yn unigryw. Gall rhieni fod ag un plentyn neu lawer, yn maethu neu’n mabwysiadu, yn rhianta plentyn ag anghenion ychwanegol, yn rhianta ar eu pen eu hunain neu ar wahân i’w plant. Efallai bod cyplau wedi bod gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer neu newydd ddechrau eu hantur priodas. Beth bynnag fo’r cyd-destun a’r amgylchiadau rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi priodasau a theuluoedd i’w helpu i ffynnu.

Wedi’n hysgogi gan ein ffydd, ein hethos a’n tosturi Cristnogol rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd o bob ffydd neu ddim ffydd, gyda gwasanaethau ac adnoddau rhagorol. Ar gyfer paratoi priodas, awgrymiadau perthynas, a chymorth yn yr amseroedd profi. O enedigaeth i flynyddoedd yr arddegau a thu hwnt. Ar gyfer rhieni mewn profedigaeth, y rhai ifanc gweddw ac unrhyw un sy’n cefnogi pobl mewn profedigaeth.

https://www.careforthefamily.org.uk/