CAP – Christians Against Poverty

Mae Christians Against Poverty wedi bod yn darparu cymorth dyled proffesiynol am ddim trwy eglwysi lleol ledled y DU ers 1996.

Rydym yn cydnabod bod y DU yn cynnwys pedair gwlad unigryw sydd â’u diwylliant, eu llywodraeth a’u polisïau eu hunain.

Yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru mae gennym dimau sy’n gweithio i eiriol dros anghenion unigryw pob cenedl. Mae’r timau hyn wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o’r gwahanol gyfreithiau, polisïau a gweithdrefnau, ac mae hyn yn sicrhau y gallwn deilwra ein gwasanaethau a’n hadnoddau i wasanaethu’r cyd-destunau hyn orau.

Rydym am weld diwedd ar dlodi yn y DU, felly rydym yn ymgyrchu, yn deisebu ac yn cynhyrchu ymchwil i ddylanwadu ar bolisi.

Gwefan: capuk.org