Calendr y Flwyddyn Eglwysig / Gristnogol

Y mae i’r calendr Eglwysig ei rythm a’i dymhorau, wedi eu saernïo o gwmpas y prif wyliau Cristnogol, sef y Nadolig, Pasg a’r Pentecost, yn nodi digwyddiadau allweddol ym mywyd Iesu. Ceir hefyd Suliau arbennig sy’n tynnu sylw at agweddau pwysig o’r ffydd Gristnogol, sy’n cynnwys dathliadau diolchgarwch, ymgyrchu dros gyfiawnder i bawb o bobl Dduw, cenhadaeth yr eglwys a gofal am greadigaeth Duw.

Bydd llawer o draddodiadau eglwysig yn dilyn patrwm o ddarlleniadau Beiblaidd i gyfeirio eu meddyliau. Mae’r Llithiadur yn gynllun o ddarlleniadau sy’n troi mewn cylch o dair blynedd, sy’n canolbwyntio ar themâu sy’n berthnasol i’r cyfnod. Mae’r Llithiadur (fersiynau Anglicanaidd [RCL] a Catholig fel ei gilydd) wedi’u trefnu’n gylchoedd darllen tair blynedd. Dynodir y blynyddoedd yn A, B, neu C. Mae pob cylch blynyddol yn dechrau ar ddydd Sul cyntaf yr Adfent (y dydd Sul rhwng Tachwedd 27 a Rhagfyr 3 yn gynhwysol). Mae Blwyddyn B yn dilyn blwyddyn A, ac mae blwyddyn C yn dilyn blwyddyn B, yna yn ôl eto i A.

Ceir fel arfer cyfres o ddarlleniadau ar gyfer pob Sul, sy’n cynnwys darnau o un o’r efengylau fesul blwyddyn, darn o’r Hen Destament; darn o un o’r Salmau; un arall o’r Epistolau.

Mae Blwyddyn A yn canolbwyntio ar Efengyl Mathew.
Mae Blwyddyn B yn canolbwyntio ar Efengyl Marc.
Mae Blwyddyn C yn canolbwyntio ar Efengyl Luc.

Darllenir Efengyl Ioan trwy gydol y Pasg, ac fe’i defnyddir ar gyfer tymhorau litwrgaidd eraill gan gynnwys yr Adfent, y Nadolig, a’r Grawys lle bo hynny’n briodol.

Cliciwch isod am y Llithiadur yn Gymraeg:
Llithiadur yr Eglwys yng Nghymru (PDF)

Suliau arbennig
O fewn y calendr Cristnogol ceir hefyd nifer o ‘Suliau arbennig’ sy’n tynnu sylw at faterion sy’n ymwneud â’n ffydd. Ceir rhestr o’r Suliau/wythnosau hynny isod:

Sul y Cyfamod
Mae Sul y Cyfamod, a ddathlir yn aml ar ddydd Sul cyntaf y flwyddyn, yn wasanaeth i ymgysegru ac ail gyfamodi i ymroi dros waith yr Efengyl ac yn ogystal i weithio dros gyfiawnder cymdeithasol. Yn y gwasanaeth mae’r Eglwys yn dathlu cynnig grasol Duw i Israel yn llawen ‘Byddaf yn Dduw iddynt a hwy fydd fy mhobl i’. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan yr Eglwys Fethodistaidd isod.
https://www.methodist.org.uk/about-us/the-methodist-church/what-is-distinctive-about-methodism/a-covenant-with-god/the-covenant-service/
Dydd Gŵyl Ystwyll
Cynhelir Dydd Gŵyl Ystwyll ar y 6ed o Ionawr – deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig – a diwedd yr ŵyl. Yn ôl traddodiad, dylid tynnu trimins neu addurniadau’r Nadolig i lawr erbyn y diwrnod hwn. Mabwysiadodd eglwys y gorllewin ‘ddeuddeg diwrnod y Nadolig’ a’u huchafbwynt ar Nos Ystwyll. Erbyn y 5ed ganrif credwyd mai dyma’r nos y cyrhaeddodd y Doethion Bethlehem i gyfarch y plentyn Iesu.
Sul Wythnos Weddi am Undod Gristnogol
Dyma Sul a gynhelir fel arfer ym mis Ionawr i godi ymwybyddiaeth ac ymrwymiad i weddïo am undod a chymod yn ein gwlad. Mae gwahanol enwadau a thraddodiadau Cristnogol yn cael eu hannog i ddod ynghyd i weddïo gyda’i gilydd, i fod yn arwydd gweledol o’r undod hwnnw. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan CTBI isod.
https://ctbi.org.uk/week-of-prayer-for-christian-unity-2021/
Sul Cofio’r Holocost
Dyma Sul a gynhelir fel arfer ym mis Ionawr i i gofio’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ochr yn ochr â’r miliynau o bobl eraill a laddwyd o dan erledigaeth y Natsïaid ac mewn hil-laddiad a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Lladdwyd nifer fawr o bobloedd a grwpiau eraill gan y Natsiaid hefyd, yn cynnwys y Roma, carcharorion rhyfel o’r Undeb Sofietaidd, pobl hoyw, pobl anabl, Tystion Jehofa ac eraill. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan yr Holocaust Memorial Day isod.
https://www.hmd.org.uk/
Sul y Gwahangleifion
Dyma Sul a gynhelir fel arfer ym mis Ionawr i dynnu sylw at broblem gwahanglwyf ac afiechydon eraill yn ein byd, ac i godi arian at waith elusen The Leprosy Mission. Afiechyd a achosir gan y bacteriwm Mycobacterium leprae yw’r gwahanglwyf. Gellir trosglwyddo’r gwahanglwyf o un person i’r llall, yn aml trwy besychu neu disian. Mae’n effeithio ar ran allanool y corff, y croen yn arbennig, ac os na cheir triniaeth mae’n ymledu i ddinistrio’r nerfau, fel nad oes teimlad mewn rhannau o’r corff. Yn y pen draw, gall y claf golli rhannau o’r corff megis bysedd neu’r trwyn. Erbyn hyn, mae triniaeth effeithiol ar gael, ond mae’r gwahangwlyf yn parhau yn broblem mewn rhai rhannau o’r Trydydd Byd. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan The Leprosy Mission isod.
https://www.leprosymission.org/our-story/blog/detail/our-blog/2021/01/15/what-do-we-want-to-achieve-this-world-leprosy-day
Sul / Dydd Santes Dwynwen
Santes oedd Dwynwen ac un o 24 merch Brychan Brycheiniog, yn y 5ed ganrif. Heddiw hi yw nawddsant cariadon Cymru, a dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Mae’n ffordd o’n hatgoffa hefyd o gariad Duw tuag atom. Yn ôl yr hanes yr oedd Dwynwen mewn cariad â Maelon, mab pennaeth llwyth arall. Ceisiodd Maelon gymryd mantais rhywiol o’i chariad ond gwrthododd Dwynwen. Gwylltiodd Maelon a’i threisio hi “gan ddwyn malais arni yng gŵydd y byd”. Collodd Maelon bob diddordeb ynddi wedyn, ,ac yn ei thrallod dihangodd hi i’r goedwig lle y gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o’i chariad at Maelon. Gweddïodd yn daer nes blino’n llwyr a syrthiodd i gysgu. Breuddwydiodd ei bod wedi yfed diod oedd yn ei hiacháu hi ond bod Maelon wedi yfed o’r un ddiod a’r diod wedi ei droi yn dalp o iâ. Gwnaeth Dwynwen dri chais mewn gweddi. Yn gyntaf, gofynnodd ar Dduw i ddadmer Maelon. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb ei gweddïau dros gariadon fel y buasent, naill ai’n cael dedwyddwch parhaol os oeddent yn caru yn gywir o’r galon, neu yn cael eu hiacháu o’u nwyd a’u traserch. Yn drydydd gofynnodd am beidio â dymuno priodi byth. Ar ôl i’w dymuniadau gael eu gwireddu, daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon.
Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.gair.cymru/cariad
Gŵyl Fair y Canhwyllau
Yng Nghymru, mae Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ŵyl a ddethlir ar 2 Chwefror. Dyma’r enw ar seremoni o fendithio canhwyllau, eu dosbarthu, a’u cario nhw mewn gorymdaith. Mae Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ŵyl sy’n symbol o ddechrau a bywyd newydd. Gelwir hefyd yn Wledd Cyflwyno Iesu yn y Deml. Mae’n seiliedig ar yr hanes o gyflwyno Iesu yn Luc 2: 22-40. Mae’n disgyn ar 2 Chwefror, sef y 40fed diwrnod o ddiwedd y Nadolig a’r Ystwyll. Mae’r canhwyllau bendigedig hyn yn symbol o Iesu Grist, a gyfeiriodd ato’i hun fel Goleuni’r Byd.
Sul Cyfiawnder Hiliol
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth o broblemau hiliol yn ein byd, ac yn fwy diweddar ymgyrch Black Lives Matter. Fe’i disgrifir fel ‘cyfle i bob Cristion ymuno gyda’i gilydd i fyfyrio ar bwysigrwydd cyfiawnder hiliol, rhoi diolchgarwch am yr amrywiaeth ddynol; i weddïo am ddiwedd ar gamddealltwriaeth hiliaeth ac anghyfiawnder ac i weithredu mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan CTBI isod.
https://ctbi.org.uk/racial-justice-sunday-2021/
Sul / Pythefnos Masnach Deg
Sul a gynhelir fel arfer fel rhan o bythefnos masnach deg a gynhelir ym mis Chwefror / Mawrth. Am bythefnos bob blwyddyn ar ddiwedd mis Chwefror a dechrau mis Mawrth, daw miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ledled y DU ynghyd i rannu straeon y bobl sy’n tyfu ein bwyd a’n diodydd, mwyngloddio ein haur ac sy’n tyfu’r cotwm yn ein dillad, pobl sy’n aml yn cael eu hecsbloetio a’u tan-dalu ac i godi ymwybyddiaeth o’r angen am degwch i holl ffermwyr a chynhyrchwyr nwyddau ledled y byd. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Fairtrade isod.
https://www.fairtrade.org.uk/get-involved/current-campaigns/fairtrade-fortnight/
Sul Ymwybyddiaeth o Dlodi
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth o broblemau tlodi yn ein cymdeithas. Mae gwaith y mudiad CAP yn ceisio mynd i’r afael â pholisïau anghyfiawn y Llywodraeth; mhelaethu ar leisiau pobl sydd wedi eu hymyleiddio; erio arferion busnes niweidiol a dal yr eglwys i gyfrif gan wneud cymdeithas y DU yn fwy cyfiawn a thosturiol, nid yn unig nawr ond yn y tymor hir. Mae CAP yn ymgyrchu dros newid, yn chwyddo lleisiau pobl sydd â phrofiad o dlodi, ac yn gweithio’n uniongyrchol ochr yn ochr â chymunedau. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Church action on Poverty isod.
https://www.church-poverty.org.uk/sunday/
Dydd Mawrth Ynyd
Cynhelir y diwrnod canol Chwefror yn arferol. Dydd Mawrth Ynyd yw’r diwrnod o flaen Dydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol. Cyfeirir ato ar lafar yn gyffredinol fel Dydd Mawrth Crempog. Gan ei fod ar ddiwrnod olaf cyn tymor y Grawys, mae arferion poblogaidd yn gysylltiedig, fel ymroi i fwyd y byddwn yn ei aberthu am y 40 diwrnod sydd i ddod. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.gair.cymru/dydd-mawrth-ynyd
Tymor y Grawys
Mae tymor y Grawys yn gyfnod sy’n arwain i fyny at y Pasg, ac yn dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw ac yn dod i ben tua chwe wythnos yn ddiweddarach, cyn Sul y Pasg. Pwrpas y Grawys yw paratoi dilynwyr Iesu ar gyfer y Pasg trwy fyw bywyd o weddi a disgwyl. Yn y Grawys, mae llawer o Gristnogion yn ymrwymo i ymprydio, yn ogystal â rhoi’r gorau i rai moethau er mwyn ail-fyw taith Iesu Grist i’r anialwch am 40 diwrnod. Mae llawer o Gristnogion hefyd yn ychwanegu disgyblaeth ysbrydol i’w grawys, fel darllen defosiwn dyddiol neu weddïo ac yn aml derfyddir Gorsafoedd y Groes fel ffocws. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Dydd Mercher y Lludw
Diwrnod cyntaf Tymor y Grawys yw Dydd Mercher y Lludw, yn ôl y Calendr Cristnogol, ac yn fwy na dim: diwrnod o ympryd. Caiff ei gynnal 46 diwrnod cyn y Pasg, 40 o ddyddiau ympryd, gyda chwe Sul nad ydynt yn cael eu cyfri’n ddyddiau ympryd. Daw’r enw o’r arferiad o roi lludw ar dalcen person i ddangos ei fod yn edifarhau ac mewn galar. Daw’r traddodiad hwn o’r arferiad o sychu dail y palmwydd, a gysegrwyd ar Sul y Blodau, flwyddyn ynghynt, eu llosgi a defnyddio’u lludw i ffurfio siâp croes.
Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Sul / dydd Gŵyl Dewi
Cynhelir Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth fel diwrnod i gofio am Dewi Sant, nawddsant Cymru. Mae’r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC. Cofir Dewi fel mynach cenhadol a deithiodd ledled Cymru yn cyhoeddi’r newyddion da am Iesu. Ni wyddom lawer amdano ond mae’n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a’i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch. Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron. Ei fam oedd y santes Non a’i dad oedd Sant (neu Sandde), brenin Ceredigion. Mae’n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua’r flwyddyn 800. Nodir iddo ddweud yn ei bregeth olaf, ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i’. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.gair.cymru/gwyl-ddewi
Sul / Dydd Gweddi Chwiorydd y Byd
Dydd gweddi a gynhelir yn flynyddol ar y Gwener cyntaf ym mis Mawrth gan chwiorydd y byd i weddïo dros faterion yn ein byd. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar wefan Womens World Day of Prayer isod ac ar y dudalen Gymraeg ar Facebook.
https://www.wwdp.org.uk/
https://www.facebook.com/DyddGweddibydenag/?ref=page_internal
Sul y Mamau
Gŵyl Gristnogol yn ei hanfod sy’n digwydd ar y pedwerydd Sul yng nghyfnod y Grawys ydy Sul y Mamau. Caiff ei chydnabod a’i dathlu gan Gristnogion, yn bennaf drwy anrhydeddu’r fam drwy weithred ymarferol neu symbolaidd. Yn draddodiadol, hefyd, arferid dathlu’r stori Feiblaidd o Grist yn rhannu pum torth a dau bysgodyn i’r dorf ar y diwrnod hwn.
Sul y Blodau / Palmwydd
Sul y Blodau yw’r Sul cyn y Pasg. Mae’n cofio taith olaf Iesu Grist i Jerwsalem, a ddisgrifir yn yr Efengylau. Mae’n arfer hyd heddiw mewn nifer o eglwysi i addurno’r eglwys â blodau a changhennau palmwydd a’u rhoi i’r addolwyr. Bydd llawer hefyd yn gosod blodau ar feddau anwyliaid yn y cyfnod yma. Mae’r Sul yma yn coffáu mynediad buddugoliaethus Iesu i Jerwsalem, digwyddiad a grybwyllir ym mhob un o’r pedair Efengyl, ac yn nodi diwrnod cyntaf yr Wythnos Sanctaidd/Fawr. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Dydd Iau Cablyd
Y dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith yn ystod y Pasg yw Dydd Iau Cablyd, a’i ystyr oedd “torri gwallt neu eillio pen” gan yr arferid eillio pennau’r mynaich a golchi eu traed ar y dydd hwn, fel rheol fin nos. Arferid gwneud hyn i gofio am y Swper Olaf a’r weithred o olchi traed disgyblion Iesu o Nasareth. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Dydd Gwener y Groglith
Gŵyl Gristnogol sy’n coffáu croeshoeliad Iesu Grist a’i farwolaeth ar Fryn Calfaria (Golgotha yn yr iaith Hebraeg) ydy Dydd Gwener y Groglith. Daw Dydd Gwener y Groglith ar y dydd Gwener cyn Sul y Pasg, yn dilyn dydd Iau Cablyd. Mae’r dyddiad yn seiliedig ar yr ysgrythurau sy’n nodi i’r croeshoelio ddigwydd ar ddydd Gwener. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Sul y Pasg
Dydd Sul y Pasg yw’r diwrnod yr atgyfododd Iesu Grist. Croeshoeliwyd ef ar Ddydd Gwener y Groglith a’r dydd Sul dilynol, ymwelodd ei fam a Mair Magdalen y bedd, gan ei ddarganfod yn wag, yn ôl Ioan. Mae’r diwrnod hwn yn rhan o wythnos y Pasg. Y Dydd Sul blaenorol yw Sul y Blodau. Dyma ddiwrnod cyntaf y cyfnod a elwir yn Dymor y Pasg, gŵyl sy’n parhau tan y Sulgwyn, cyfnod o 7 wythnos. Yr wythnos gyntaf wedi Dydd Sul y Pasg yw ‘Wythnos y Pasg’. Dethlir yr Atgyfodiad o’r Sul hwn am weddill yr wythnos. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Diwrnod Iechyd y Byd
Mae Ebrill 7 bob blwyddyn yn nodi dathliad Diwrnod Iechyd y Byd. Ers ei sefydlu yn 1948 mae’r dathliad wedi anelu at greu ymwybyddiaeth o thema iechyd penodol i dynnu sylw at faes pryder sy’n peri pryder i Sefydliad Iechyd y Byd. Dros yr 50 mlynedd diwethaf mae hyn wedi dod â materion iechyd pwysig fel iechyd meddwl, gofal mamau a phlant, a newid yn yr hinsawdd i’r amlwg. Mae’r dathliad yn cael ei nodi gan weithgareddau sy’n ymestyn y tu hwnt i’r diwrnod ei hun ac yn gyfle i ganolbwyntio sylw ledled y byd ar yr agweddau pwysig hyn ar iechyd byd-eang. Ceir adnoddau a gwybodaeth ar wefan y World Helth Organization.
https://www.who.int/westernpacific/news/events/world-health-day
Dydd Iau Dyrchafael
Gŵyl Gristnogol yw Dydd Iau Dyrchafael neu Ddifiau Dyrchafael sy’n cyfeirio at gorff Crist yn esgyn o’r ddaear i’r nefoedd; fe’i seiliwyd ar adnod 1:3 yn Llyfr yr Actau. Caiff yr ŵyl hon ei dathlu ar ddydd Iau, fel yr awgryma’r enw: ar y 40fed dydd o’r Pasg. Fe’i dethlir gan y rhan fwyaf o eglwysi Cristnogol ar y dydd hwn, ond mae rhai wedi’i symud i’r dydd Sul canlynol. Dathlwyd yr ŵyl yn gynnar iawn gan yr Eglwys Fore, mor bell yn ôl â’r 4edd ganrif. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/pasg/
Sul / Wythnos Cymorth Cristnogol
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Mai sy’n gychwyn ar wythnos o weithgarwch eglwysig i dynnu sylw at dlodi ac anghyfiawnder yn y byd, ac i godi arian at waith Cymorth Cristnogol, trwy’r amlenni coch a ddosberthir o ddrws i ddrws ynghyd â chasgliadau eraill. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cymorth Cristnogol isod.
https://www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christian-aid-week
Sul / Dydd Neges heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
Mai’r 18fed yw Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru. Bob blwyddyn ers 1922, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges o heddwch i bobl ifanc dros y byd. Dyma’r unig neges o’i math yn y byd! Ceir mwy o fanylion gan gynnwys negeseuon y gorffennol ar wefan yr Urdd isod.
https://www.urdd.cymru/cy/neges-heddwch-eleni/
Sul/ Wythnos Ffoaduriaid
Diwrnod a gynhelir yn ystod mis Mehefin yw diwrnod cofio am y ffoaduriaid ledled y byd. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ledled y DU sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa. Wedi’i sefydlu ym 1998 a’i gynnal bob blwyddyn o amgylch Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin, mae Wythnos Ffoaduriaid hefyd yn fudiad byd-eang sy’n tyfu.
https://refugeeweek.org.uk/
Sul y Pentecost / Sulgwyn
Gŵyl Gristnogol symudol yw’r Sulgwyn/Pentecost a gynhelir ar yr wythfed Sul ar ôl y Pasg. Mae’n dathlu yr Ysbryd Glân yn disgyn ar yr Apostolion. Mae digwyddiadau Llyfr yr Actau wedi’u gosod yn erbyn cefndir dathliad y Pentecost yn Jerwsalem. Mae sawl nodwedd fawr i naratif y Pentecost, gan nodi bod disgyblion Iesu “i gyd gyda’i gilydd mewn un lle” ar “ddiwrnod y Pentecost”. Mae yna “wynt rhuthro nerthol” (mae gwynt yn symbol cyffredin i’r Ysbryd Glân) ac mae “tafodau fel tân” yn ymddangos. Llenwyd y disgyblion a gasglwyd “gyda’r Ysbryd Glân, a dechreuon nhw siarad mewn tafodau eraill wrth i’r Ysbryd draethu iddynt”. Yn y traddodiad Cristnogol, mae’r digwyddiad hwn yn cynrychioli cyflawni’r addewid y bydd Crist yn bedyddio ei ddilynwyr gyda’r Ysbryd Glân. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
Sul Cenhadaeth i’r Morwyr
Bob blwyddyn ym mis Gorffennaf cynhelir Sul i weddïo a dathlu rôl morwyr yn ein bywydau bob dydd, gan gadw’r economi fyd-eang i symud gyda chyfle i weddïo drostyn nhw a’u teuluoedd. Enw’r digwyddiad blynyddol hwn yw Sul y Môr ac mae wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr The Mission to Seafarers. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan The Mission to Seafarers isod.
https://www.missiontoseafarers.org/sea-sunday
Sul Addysg
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Medi ar adeg cychwyn y flwyddyn addysgol newydd i weddïo dros fyd addysg ac addysg Gristnogol. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Churches Together a Cyngor Ysgolion Sul isod.
https://www.cte.org.uk/Groups/234838/Home/Resources/Education_Sunday/Education_Sunday.aspx
https://www.ysgolsul.com/?page_id=359
Sul Heddwch
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Medi i godi ymwybyddiaeth o’r angen am heddwch a chymod yn ein byd. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Fellowship for Reconcilliation a Cymdeithas y Cymod isod.
www.for.org.uk/peacesunday/
https://www.cymdeithasycymod.cymru/
Sul Newid Hinsawdd / yr amgylchedd
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Medi i godi ymwybyddiaeth o beryglon cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Mae’r fenter Sul yr Hinsawdd yn galw ar bob eglwys leol a bob enwad Cristnogol i gynnal gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd ar ddyddiad cyfleus ym mis Medi. Yn y gwasanaeth hwn, bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i wneud ymrwymiad byr a syml i weithredu mwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac i godi eu llais i annog llywodraethau i weithredu’n gryfach. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Climate Sunday isod.
https://www.climatesunday.org/?lang=cy
Sul Rhyddid rhag Caethwasiaeth Fodern
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth o broblemau caethwasiaeth fodern a masnachu rhyw. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan IJM isod.
https://www.ijmuk.org/modern-slavery-and-trafficking
Sul y Beibl
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Hydref i ddiolch am y Beibl, ac i godi arian at waith Cymdeithas y Beibl. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cymdeithas y Beibl isod.
https://www.biblesociety.org.uk/get-involved/bible-sunday-2020/?cymraeg
Sul Digartrefedd
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn ein gwlad. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Housing Justice isod.
https://housingjustice.org.uk/homeless-sunday-2020
Sul Diolchgarwch am y Cynhaeaf
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Hydref i ddiolch i Dduw am dymor y cynhaeaf. Yn hanesyddol yng ngogledd Cymru yn arbennig dethlir y 3ydd dydd Llun yn Hydref fel Dydd Llun Diolchgarwch. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
https://www.ysgolsul.com/?page_id=5621
Sul / Wythnos un Byd
Sul a gynhelir fel arfer ar gychwyn wythnos Un Byd, sydd hefyd yn cyd-fynd â diwrnod cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig er mwyn codi ymwybyddiaeth o greu byd teg, diogel a chyfiawn i bawb. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan One World Week isod.
https://www.oneworldweek.org/
Sul Carchardai
Sul a gynhelir fel arfer ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth o agweddau bywyd carchardai – y rhai sydd dan glo a’u teuluoedd, a’r gweithwyr/caplaniaid. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Prison Week isod.
https://prisonsweek.org/
Sul y Cofio
Y diwrnod ym mis Tachwedd y cofir am y rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yw Sul y Cofio. I ddechrau, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn cael ei ddathlu fel Diwrnod y Cadoediad (11 Tachwedd), ond ym 1945 newidiwyd yr enw i Sul y Cofio. Ers 1956 mae’n cael ei nodi ar y dydd Sul cyntaf ar ôl Diwrnod y Cadoediad (fel arfer ail ddydd Sul mis Tachwedd). Mae dau funud o ddistawrwydd am 11 o’r gloch y bore yn cael ei gadw i gofio llofnodi’r cadoediad a ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ar 11 Tachwedd 1918. Bydd pobl yn gwisgo bathodyn y pabi coch a rhoddir torchau o’r pabi coch o flaen y Senotaff ac ar gofebion rhyfel ledled gwledydd Prydain. Ceir mwy o fanylion isod.
https://www.britishlegion.org.uk/get-involved/remembrance/remembrance-events/remembrance-sunday?gclid=Cj0KCQiAgomBBhDXARIsAFNyUqM0e0oE6J78XZYTKdP0QRcjyslvQVGHmaq_NwCyX1Un4UQ-OCjyiuIaAgiQEALw_wcB&gclsrc=aw.ds

Bydd Cymdeithas y Cymod hefyd yn annog yr eglwysi i weddïo ac ymgyrchu dros heddwch, a defnyddir y pabi gwyn fel symbol o geisio heddwch. Ceir mwy o wybodaeth isod.
https://www.cymdeithasycymod.cymru/

Dydd yr Holl Saint
Mae Dydd yr Holl Saint, a elwir hefyd yn Galan Gaeaf, neu Wledd yr Holl Saint yn ddigwyddiad Cristnogol sy’n cael ei ddathlu er mwyn cofio ac anrhydeddu’r holl saint, yn hysbys ac yn anhysbys. Ei fwriad yw dathlu’r holl saint, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw, neu nad ydyn nhw bellach, yn cael eu dathlu’n unigol, naill ai oherwydd bod nifer y seintiau wedi dod mor fawr neu oherwydd iddyn nhw gael eu dathlu mewn grwpiau, ar ôl dioddef merthyrdod gyda’i gilydd. Mae hefyd yn achlysur i gyhoeddi goleuni Crist, yn arbennig mewn gwrthgyferbyniad i draddodiadau diweddar Calan Gaeaf. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
https://www.ysgolsul.com/?page_id=5728
Suliau’r Adfent
I lawer o eglwysi Cristnogol, tymor o ddisgwyl a pharatoi ar gyfer dathlu geni’r Iesu ar adeg y Nadolig ac ail-ddyfodiad Iesu yw’r Adfent. Mae’r term yn fersiwn o’r gair Lladin sy’n golygu “dyfodiad”. I Gristnogion, mae tymor yr Adfent yn cyfeirio at ddyfodiad Crist o dri gwahanol safbwynt: yn y cnawd ym Methlehem, yn eu calonau yn feunyddiol, ac yn ei ogoniant ar ddiwedd amser. Yr Adfent yw dechrau’r flwyddyn litwrgaidd, sy’n dechrau ar y pedwerydd Sul cyn y Nadolig. Mae’r arferion sy’n gysylltiedig a’r Adfent yn cynnwys cadw calendr Adfent, offrymu gweddi o ddefosiwn dyddiol, gosod coeden Nadolig neu goeden Crismon, goleuo Cristingl, ynghyd â dulliau eraill o baratoi ar gyfer y Nadolig, fel gosod addurniadau Nadolig. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/nadolig/

Sul / dydd AIDS y byd
Mae Diwrnod AIDS y Byd yn cael ei gynnal ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’n gyfle i bobl ledled y byd uno yn y frwydr yn erbyn HIV, dangos cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda HIV, a choffáu’r rhai sydd wedi marw o salwch sy’n gysylltiedig ag AIDS. Fe’i sefydlwyd ym 1988, Diwrnod AIDS y Byd oedd y diwrnod iechyd byd-eang cyntaf erioed. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan World Aids Day isod.
https://www.worldaidsday.org/
Sul Trais yn erbyn Merched
Sul a gynhelir fel arfer yn Rhagfyr i godi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref. Mae un o bob tair merch ledled y byd yn profi trais corfforol neu rywiol yn bennaf gan bartner agos. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn groes i hawliau dynol. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Women Against Violence Sunday isod.
https://www.methodist.org.uk/our-faith/worship/singing-the-faith-plus/seasons-and-themes/special-sundays/women-against-violence-sunday/
Dydd Nadolig
Gŵyl Gristnogol flynyddol yw’r Nadolig sy’n cael ei ddathlu ar Ragfyr 25ain i nodi genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig â’r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf megis y gwyliau Celtaidd. Mae’r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw’n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd. Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i’r diwrnod o’i flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Yng Ngwledydd Prydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr. Daw tarddiad y gair Nadolig o’r gair Lladin Natalicia (Natalis) sy’n golygu digwyddiad sy’n ymwneud â geni. Ceir mwy o fanylion gan gynnwys deunyddiau defosiynol ar gyfer cynnal oedfa ar wefan Cyngor Ysgolion Sul isod.
www.cristnogaeth.cymru/nadolig/