
Cymerodd dros 50 mlynedd i’r Beibl Cymraeg gyrraedd ei ffurf derfynol. Erbyn 1567 roedd William Salesbury, gyda chymorth yr Esgob Richard Davies yn bennaf, wedi cyfieithu’r Testament Newydd a’r Salmau. Yna aeth William Morgan ati erbyn 1588 i ddiwygio gwaith Salesbury a chyfieithu gweddill yr Hen Destament. Yn sgil cyhoeddi’r fersiwn ‘awdurdodedig’ o’r Beibl Saesneg, y ‘King James Version’, yn 1611, penderfynodd yr Esgob Richard Parry baratoi fersiwn diwygiedig o ‘Feibl William Morgan’. Ysgwyddwyd pen tryma’r gwaith diwygio gan un o ysgolheigion gwychaf y Gymraeg, Dr John Davies, Mallwyd. Cyhoeddwyd y fersiwn diwygiedig hwnnw 400 mlynedd yn ôl, yn 1620, a dyna fu Beibl y Cymry am y 350 mlynedd nesaf.
Anodd gorbwysleisio pwysigrwydd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Am ganrifoedd bu ei ddylanwad yn drwm ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Aeth ei arddull a’i ymadroddion i fêr esgyrn yr iaith. Yn wir, pe na bai’r Beibl wedi ei gyfieithu bryd hynny, mae’n amheus a fyddai’r Gymraeg wedi goroesi. Roedd cyfieithwyr Beibl 1988 yn llygad eu lle wrth alw Beibl 1620 ‘yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl’. Dyma, yn ddi-os, garreg filltir eithriadol bwysig yn hanes Cymru, sy’n haeddu dathlu mawr!
Mae 4 prif gyfieithiad o’r Beibl ar gael yn Gymraeg, sef:

Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl cyfan, gan gynnwys yr Apocryffa, yn y flwyddyn 1588. Gwaith William Morgan, 1545-1604, ydoedd, gŵr a aned ym Mhenmachno, Conwy ac a raddiodd o Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Yn fuan ar ôl ei gyhoeddi dechreuodd William Morgan ar y gwaith o ddiwygio ei gyfieithiad. Yna ar ôl ei farwolaeth yn 1604, dyma’r Esgob Richard Parry a’r Dr John Davies yn ymgyryd â’r dasg o gwblhau’r gwaith, gyda’r nod o gaboli’r iaith lenyddol a dileu geiriau a chymalau a ystyrid yn rhy lafar. Cafodd y fersiwn diwygiedig o’r Beibl ei gyhoeddi yn 1620, a’r gyfrol hon yw’r un mae pobl hyd heddiw yn ei galw yn Feibl William Morgan. Y cyfieithiad diwygiedig hwn o’r Beibl fu’r cyfieithiad safonol yng Nghymru hyd yr 20fed ganrif. Hwn oedd y Beibl y cerddodd Mary Jones i’r Bala i’w brynu. Hwn oedd y Beibl sbardunodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804. Hwn oedd y Beibl aeth i’r Wladfa gyda’r Cymry ymfudodd yno yn 1865. “…dyma’r gyfrol a fu’n sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern.” (Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Cyhoeddwyd cyfieithiad newydd o’r Beibl Cymraeg Newydd (BCN) yn 1988 ac mae wedi disodli i raddau helaeth gyfieithiad William Morgan.
Rhyddhawyd adolygiad o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (BCND) (y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) ym mis Mawrth, 2004. Dyma Feibl safonol i’r 21 ganrif i’r Cymry.
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780564031078&tsid=6
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
Yn 2015 cyhoeddwyd argraffiad gyda nodiadau esboniadol, sef Y Beibl Canllaw:
Cynhyrchwyd Y Beibl Canllaw er mwyn galluogi pobl i ddeall y Beibl yn well. Gwnaethpwyd hyn drwy gyfuno testun y Beibl Cymraeg diwygiedig gyda nodiadau ar adnodau, cyflwyniadau i themâu a llyfrau’r Beibl, mapiau, lluniau, mynegai manwl a llawer mwy. Dyma gyfrol sy’n cyfuno testun y Beibl ynghyd â’r arfau er mwyn ei astudio mewn arddull gyfoes.
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781850492504&tsid=6

Argraffiad iaith gyfoes / llafar beibl.net 2002/2015
Mae beibl.net yn agor Gair Duw i’r genhedlaeth ifanc. Mae’n gyfieithiad llafar syml, hawdd i’w ddarllen, o’r ysgrythurau. Mae’n galluogi pobl ifanc, dysgwyr y Gymraeg ac eraill, i ‘glywed’ a deall neges yr efengyl. Mae beibl.net yn gyfieithiad cwbl wreiddiol o’r Beibl. Dydy o ddim yn ddiwygiad o unrhyw fersiwn Gymraeg, nac yn gyfieithiad o unrhyw fersiwn Saesneg. Cafodd ei ysgrifennu’n bennaf gan Arfon Jones.
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780564033270&tsid=9
Cyhoeddwyd fersiwn lliw i blant hefyd, sy’n cynnwys 365 o hanesion o’r Beibl gyda thestun Beiblaidd beibl.net
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859947999&tsid=3
Y Ffordd Newydd 1971
Argraffiad o’r bedair Efengyl – Mathew, Marc, Luc a Ioan – a gyhoeddwyd mewn iaith lafar yn ystod yr 1970au.
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
Cyfieithiad o Efengyl Mathew gan Islwyn Ffowc Ellis
Addasiad gan Islwyn Ffowc Ellis o Efengyl Mathew
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
Salmau Cân Edmwnd Prys
Llyfr y Psalmau Edmund Prys 1544-1623. Roedd Edmund Prys wedi ei drwytho yn y traddodiad barddol Cymraeg, a phan oedd yn Archddiacon Meirionnydd, cyfieithodd y Salmau i Gymraeg syml a rhythmig. O ganlyniad gallai eglwyswyr fod yn rhan o’r gwasanaeth unwaith eto. Hyd yn oed heddiw, mae salm o’i waith yn llyfr salmau pob enwad.
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
Salmau Cân Newydd Gwynn ap Gwilym (2008)
Cyfieithiad cyfoes gan Gwynn ap Gwilym o’r holl Salmau ar fudr ac odl er mwyn eu canu.
Cliciwch YMA i ddarllen y testun
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781843239086&tsid=3
Testament William Salesbury, 1567
Yn Gymraeg, enwau pobl a gysylltir yn bennaf gyda’r gwahanol argraffiadau. Y cyntaf oedd Testament William Salesbury, 1567. Mae’r enw dipyn bach yn gamarweiniol, gan i Salesbury gael help gan yr Esgob Richard Davies a chan Thomas Huet, Tyddewi. Ond y mae’r traddodiad yn iawn yn gwobrwyo Salesbury â chymaint o’r clod – onid ei egni a’i athrylith ef yn bennaf a sicrhaodd y cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg? Mae tadogi’r cyfrifoldeb am Feibl 1588 ar yr Esgob William Morgan yr un mor gywir, er i hwnnw hefyd dderbyn llawer o help gan eraill.
Canys felly y cârodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei uni-genedic fab, fel na choller nêb a’r y fydd yn crêdu ynddo ef, eithꝛ caffael o honaw ef fywyd tragywyddol.
Beibl Parry Davies 1620
Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
Y Beibl Cymraeg Newydd, 1988
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
beibl.net 2015
Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

Maent ar gael i archebu o’ch siop Gymraeg lleol neu ar-lein drwy gwales.com.
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn awyddus bod cymaint o blant Cymru yn cael eu copi personol o un o’r Beiblau hyn/ I’r perwyl hynny mae gennym gynllun arbennig i werthu copïau ar ostyngiad arbennig i eglwysi ar gyfer eu cyflwyno yn rhodd i blant. Bydd llawer yn cyflwyno copïau i blant ar achlysur geni, bedydd, derbyn yn aelodau neu ar achlysur arbennig yn hanes yr eglwys megis canmlwyddiant yr achos neu er cof am rywun arbennig. Am delerau cysylltwch yn uniongyrchol gyda Cyngor Ysgolion Sul.
1545 Ganwyd William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant.
1549 “Y Ddeddf Unffurfiaeth” yn datgan y dylai addoli cyhoeddus gael ei gynnal yn Saesneg yn hytrach na Lladin.
1558 Elizabeth yn dod yn frenhines Lloegr.
1563 Elizabeth 1af yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n datgan bod rhaid i bob eglwys yng Ngymru gael cyfieithiad Cymraeg o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Beibl erbyn 1567.
1564 Richard Davies a William Salesbury yn cydweithio ar gyfieithu’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin.
1567 William Salesbury yn cyhoeddi’r Testament Newydd yn y Gymraeg.
1579 William Morgan yn cychwyn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.
1588 Cyhoeddi Beibl Cymraeg William Morgan yn Llundain.
1595 Penodi William Morgan yn Esgob Llandaf.
1601 William Morgan yn dod yn Esgob Llanelwy.
1604 Bu farw’r Esgob William Morgan yn 59 oed.
1620 Beibl yr Esgob Richard Parry – fersiwn diwygiedig o gyfieithiad William Morgan.
1630 ‘Y Beibl Bach’, – yr argraffiad poblogaidd cyntaf o’r Beibl Cymraeg
1717 Beibl Moses Williams, y Beibl Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi gan S.P.C.K
1770 Beibl Peter Williams, Y Beibl Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi gydag esboniad a’r Beibl cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru
1799 Beibl Cymraeg SPCK. Hwn yw’r argraffiad a gafodd Mary Jones gan y parchedig Thomas Charles o’r Bala yn 1800
1975 Cyhoeddi Testament Newydd fel rhan o gynllun y Beibl Cymraeg Newydd
1988 Cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd
2002 Lansio gwefan beibl.net a chyhoeddi’r Testament Newydd arno.
2004 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig
2011 Arfon Jones yn cwbwlhau cyfieithu’r Beibl cyfan i Gymraeg bob dydd – Beibl.net
2015 Cyhoeddi fersiwn print o beibl.net