Arfer da a Diogelwch

Mae gan bob enwad strwythur ar gyfer delio gyda arferion da a diogelwch.

Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais,
ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.
Coda dy lais o’u plaid nhw, barna’n gyfiawn,
a dadlau dros hawliau’r rhai mewn angen a’r tlawd.
Diarhebion 31:8-9

Annibynwyr, Presbyteriaid a Bedyddwyr

Undeb Bedyddwyr Cymru
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn rhan o gonsortiwm cyd-enwadol sy’n gofalu am y materion hyn ar eu rhan.

Panel Diogelwch Cydenwadol

Mae pob capel neu sefydliad sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion bregus angen Polisi Diogelu Grwpiau Bregus cyfredol. Mae hyn yn eu helpu nhw i ddilyn ymarfer da, cydymffurfio â chanllawiau megis Comisiwn Elusennau, cwrdd â gofynion eu polisi yswiriant ac wrth gwrs darparu gweithgareddau diogel.
Mae’r Panel yn gweithio yn arbennig gydag eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae’n darparu adnoddau a hyfforddiant i gefnogi rhai sy’n cyfrifol am gweithgareddau(e.e ymddiredolwyr) neu sy’n gwirfoddoli neu yn gweithio yn uniongyrchol gyda phlant a phobl fregus.

Mae Panel yn cynnig:

1. Mynediad at wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) am ddim i Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac am ffi i sefydliadau eraill

2. Y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus sy’n ffurfio polisi a gweithdrefnau yr enwadau uchod.

3. Y gwefan sy’n cynnwys y Llawlyfr a mwy o arweiniad a gwybodaeth ar ddiogelu.

4. Sesiynau Hyfforddiant i helpu capeli i ddeall eu cyfrifoldebau ynglŷn â grwpiau bregus a gwneud yn siŵr bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn gyfarwydd â chamau priodol i gymryd os ydynt yn pryderu am sefyllfa neu unigolyn.

5. Cyngor a chefnogaeth ynglŷn â materion diogelu yn gyffredinol ac arweiniad clir a phroffesiynol wrth ymdrin ag achosion unigol.

Yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaid)

Yr Eglwys Fethodistaidd

Ar gyfer gwybodaeth neu ymholiad ynghylch:

  • Pryder neu gwestiwn am ddiogelu
  • Hyfforddiant Diogelu
  • Polisiau, Dulliau Gweithredu a Chanlawiau Diogelu
  • Gwiriadau DBS

Cysylltwch â Swyddog Diogelu Synod Cymru
Diacon Stephen Roe

01341 388739
07933 309 453
stephen.roe@methodist.org.uk

Yr Eglwys yng Nghymru

Yr Eglwys yng Nghymru

Manylion i ddilyn

CCPAS

CCPAS – Childrens’ Child Protection Advisory Service

Gwefan sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am adnoddau a hyfforddiant rhyng-enwadol yw CCPAS, bellach yn cael ei hadnabod fel Thirtyone:eight. www.thirtyoneeight.org