Elusen Gristnogol yw A Rocha UK sy’n gweithio i feithrin gallu Cristnogion ac eglwysi i ddiogelu ac adfer yr amgylchedd – i Dduw, i fyd natur, ac i bawb.
Ein nod yw meithrin gallu eglwysi ac arweinwyr eglwysi, ysbrydoli unigolion a theuluoedd, adeiladu partneriaethau a rheoli tir er lles byd natur a phobl.
Wrth i’r newid yn yr hinsawdd gyflymu ac i rywogaethau gael eu colli, mae mwy o angen nag erioed i ni weithredu er mwyn diogelu a gofalu am fyd natur heddiw.
Mae ein rhaglen Eco Church yn gymuned ddysgu o eglwysi o bob maint a ffurf, ac yn agored i bob enwad. Mae’n fframwaith ar-lein i gefnogi ac ysbrydoli eglwysi a’u harweinyddion i gymryd camau ymarferol ynghylch gofalu am ddaear Duw. Mae’n cynnwys pecyn offer o adnoddau, arolwg dyfarniadau ar-lein, ‘cylchlythyr’ chwarterol, digwyddiadau ar-lein a chynadleddau.
Mae ein rhaglen ‘Wild Christian’ yn gymuned o unigolion a theuluoedd sy’n mwynhau ac yn dysgu am fyd natur gyda’i gilydd, gan gymryd camau ymarferol mewn cartrefi a chymunedau, ac yn dod â lleisiau ynghyd i gael effaith genedlaethol.
Mae rhwydwaith Partneriaid ar Waith A Rocha UK, sy’n tyfu’n gyson, yn cefnogi rheolwyr tir Cristnogol ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae’r partneriaid yn cynnwys eglwysi, grwpiau cymunedol, ysgolion, ffermydd, eglwysi cadeiriol, a chanolfannau encil, cynadledda ac antur ieuenctid ar draws y Deyrnas Unedig.