Y Weledigaeth
Er bod treftadaeth ysbrydol Cymru’n gyfoethog a llawn bywyd, mae’r argoelion presennol ar gyfer yr Eglwys yn weddol dywyll. Ychydig llai na 200 mlynedd yn ôl, dywedodd Christmas Evans hyn am genedl y Cymry:
“Efallai na welir un genedl yn ôl rhifedi y Cymry wedi cael ei hennill mor gyfan i wrando yr Efengyl. Mae teiau cyfarfod wedi eu hadeiladu trwy holl gonglau y wlad, a’r werin gan mwyaf, ie, braidd i gyd, yn ymdyrru i wrando. Hefyd, nid oes wybodaeth am un genedl, yn ôl ei rhifedi, wedi proffesu yr Efengyl mor gyffredinol, yn y Deheudir ac yn Ngogledd Cymru.”
Ar droad yr 20fed Ganrif, yr oedd ‘bod yn Gymro bron yn gyfystyr â bod yn Gristion’, gyda dros 80% o’r boblogaeth yn mynychu capel Cymraeg neu Saesneg.
Erbyn heddiw, llai na 2% o’r boblogaeth sy’n ystyried eu hunain fel pobl â pherthynas byw gyda Iesu. Mae’r capeli oedd yn llawn yn gorwedd yn wag ac yn adfeilion.
Ond, mae gobaith. Trwy drugaredd, nid hwn yw’r tro cyntaf i bobl yr Arglwydd gael y profiad o fod yn bobl yr ymylon, o fod fel petai yn cael eu trechu, o fod yn wynebu trai.
Meddyliwch am Dafydd a Goliath. Gan sefyll o flaen y cawr anferth yma oedd wedi gwneud i fyddinoedd Israel grynu mewn ofn, enillodd y bachgen o fugail, wedi ei gynhyrfu gan ogoniant Duw, ac yn ymddiried yn addewidion Duw, fuddugoliaeth cwbl annisgwyl. Cwympodd y cawr. Adferwyd y gogoniant.
Neu, meddyliwch am yr offeiriad a ddychwelodd i Jerwsalem wedi’r gaethglud. O wynebu adfeilion a rwbel ar bob llaw, yr oedd y dyfodol yn ymddangos yn dywyll. Ond, dychmygodd yr offeiriaid ddyfodol gwahanol; mae’r dychymyg a daniwyd gan yr Ysbryd ynddynt yn arwain at gamau hyderus. ‘Er bod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw’n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i’r ARGLWYDD arni bob bore a nos.’ (Esra 3:3) Ail-adeiladwyd yr allor. Dychwelodd y gogoniant.
Mae hanes yn ein dysgu, pan mae pobl Dduw yn mentro mewn ffydd ostyngedig a hyderus, mae cewri’n cwympo, ail-adeiledir allorau ac mae’r tir yn cael ei adfywio.
Dyma ein breuddwyd.
Rydym am fod yn rhan o genhedlaeth sydd wedi profi Duw yn cynhyrfu ein calonnau yn ein dyhead am weld Ei ogoniant. Rydym am ail-adeiladu mannau presenoldeb Duw yn ein tir.
Ein hanes
Yn Mawrth 2021, rhannwyd gair ar gyfer eglwysi yng Nghymru o gyfarfod gweddi yn Redhill yn Lloegr. Dehonglwyd y gair i ddweud:
Mae Duw Dad, drwy ei Ysbryd Glân:
yn dangos fod gobaith i eglwysi ym mhob rhan o Gymru i weithio gyda’i gilydd. Rwy’n meddwl ei fod yn eich gwahodd i geisio’r cydweithio / partneriaeth fel blaenoriaeth o ran ymdrech.
yn cydnabod y gorffennol, ond dyna yw…yn y gorffennol. Mae’r gorau eto i ddod yn nhermau’r efengyl, a gallu’r eglwys i wneud gwahaniaeth. Bydd gan eglwys y dyfodol ei ffordd ei hun, nid ail-ysgrifennu’r gorffennol gyda ychydig o rywbeth newydd.
yn dweud fod prydferthwch a bywyd yn yr eglwys yng Nghymru yn awr, a bod addewid am gynnydd yn hyn ar gyfer y dyfodol.
yn dweud fod gweithgarwch yn angenrheidiol gyda gwaith yr Ysbryd Glân, e.e. yr hyn chi’n ei wneud i estyn allan yn gymdeithasol; creu perthynas gydag eglwysi eraill yng Nghymru, bydd gweddïo yn hanfodol i’w weledigaeth ar gyfer yr eglwys yng Nghymru.
yn dangos, er pwysiced yw canolbwyntio ar Gymru ei hun, nid yw’n dod i ben yno. Mae’r hyn y mae’n ei adeiladu ar dy gyfer di ar gyfer dy gymdogion hefyd. Nid amser amddiffyn yw hyn, ond amser i adeiladu er na weli pa mor bell y bydd y gwaith yn ymestyn.
an outline of the map of Wales
Bu’n ddau fis cyn i’r gair yma gyrraedd yr eglwysi oedd e wedi ei fwriadu i (camgymeriad gweinyddol neu llaw sofran Duw), ond, yn y cyfamser, yr oedd Ben wedi cael breuddwyd am weledigaeth Cant i Gymru.
Daeth ar ffurf gwefan, gyda’r enw 100.cymru.
Yn y freuddwyd yr oedd Ben yn medru gweld y wefan, gwefan oedd gyda cwestiwn ar y faner:
“Beth fyddai’n ei gymryd i weld 100 o eglwysi iach yn cael eu plannu yng Nghymru yn ystod y degawd nesaf?”
Yr oedd 5 tab i’r wefan; Gweddi, Ysbrydoli, Arfogi, Anfon, Cefnogi – gyda tudalen o strategaeth/cyfeiriad am ffyrdd posibl o gychwyn y fenter yma.
Y freuddwyd a chadarnhad y gair dderbyniwyd oedd yr hyn enynnodd geni’r weledigaeth hon.
Treuliodd Ben a Lois ddwy flynedd yn mynd i’r afael â’r weledigaeth, gan weddïo drwyddi, a siarad â grŵp o arweinwyr yr oeddent yn ymddiried ynddynt. Wrth archwilio fwy-fwy daethant yn fwy-fwy ymwybodol o law Duw yn y cyfan, ac felly, gyda’r tîm o’u hamgylch ag arweinwyr o wahanol rannau o Gymru, maent yn camu allan mewn ffydd i geisio gwireddu’r weledigaeth.
Bellach y mae gennym y tîm o arweinwyr, arolygaeth ag atebolrwydd drwy Cymrugyfan, a cryn gyffro wrth edrych ymlaen at y ffordd y bydd Duw yn defnyddio’r fenter hon dros y degawd nesaf.